Makroud

Makroud

Mae makroud (neu macroude neu makhroud) yn fath o gacen bach Tiwnisiaidd, Algeria idd Tyrceg ac a wneir â semolina.

Paratoir makroud trwy osod allan haen o bastri wedi'i wneud â blawd semolina ac ychwnaegu haen o ddêts arno fo (weithiau defnyddir ffigys yn lle dêts). Yna mae'r cyfan yn cael ei rwlio i fyny a'i dorri yn gacennau bach, o siâp losen neu driongl. Ychwanegir ychydig o hadau sesame neu cernels pin weithiau cyn eu pobi.

Mae makroud yn ddanteithyn a geir ledled y wlad ond rhaid ei fwyta'n ffres er mwyn ei wethfawrogi'n iawn.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search